Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Hydref 2012
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio
1. Ar 9 Hydref 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio yn ymwneud â phwerau i gynnwys darpariaethau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol ac adrodd yn ôl arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adrodd yn ôl i’r Cynulliad erbyn 15 Tachwedd 2012.